Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Hydref 2017
Amser:
14.00 -
16.37
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4350
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC |
Tystion: |
Dr Darren Chant, Meddygfa Teifi, Llandysul Dr Alun Edwards, Meddygfa Tŷ Bryn, Caerffili Andrew Evans, Llywodraeth Cymru Dr Carwyn Jones, Meddygfa Furnace House, Caerfyrddin Dr Chris Jones, Llywodraeth Cymru Eryl Smeethe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Dr Alun Walters, Aneurin Bevan University |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mohammad Asghar AC a Lee Waters AC. Ni chafwyd dirprwyon.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Trafododd a nododd yr aelodau y llythyr gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.
4.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Carwyn Jones, Meddygfa Furnace House, Caerfyrddin, a Dr Darren Chant, Meddygfa Teifi, Llandysul, fel rhan o'r ymchwiliad i reoli meddyginiaethau.
5.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Alun Edwards, Meddygfa Tŷ Bryn, Caerffili; Dr Alun Walters, Cyfarwyddwr Clinigol, Gwasanaeth Gofal Sylfaenol a Chymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; ac Eryl Smeethe, Fferyllydd ac Arweinydd Rhwydweithiau Gofal Cymdogaeth Gogledd Torfaen, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fel rhan o'r ymchwiliad i reoli meddyginiaethau.
6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Evans, y Prif Swyddog Fferyllol, a'r Athro Chris Jones, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Llywodraeth Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i reoli meddyginiaethau.
6.2 Cytunodd Andrew Evans i anfon rhagor o wybodaeth am y dyddiad cyflwyno disgwyliedig ar gyfer y system MTeD (Trawsgrifio ac e-Ddosbarthu Meddyginiaethau) ledled Cymru.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd yr aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law, gan ofyn i'r Clercod baratoi adroddiad drafft.